Llygadrythai yn hir ar rai o'r arwyddluniau cyfrin a frithent y dail. Pesychai hefyd gryn lawer fel un yn teimlo pwysigrwydd ei swydd. Ac wedi enyd hir o ddystawrwydd mynwentaidd, llefarai rhywbeth tebyg i gigfran o grombil yr hen ddewines:
"Y mae yn arferiad yn ein plith ni." ebai hi (cyfres o besychiadau), "ddarlunio gwrthddrychau eu serch i'r sawl a ymgynghorant â ni. A fyni dithau ddysgrifiad o Forfudd y Twr?"
"Nid i ymofyn dysgrifiad o Forfudd y daethum atat ar yr awr anamserol yma o'r nos, Cadi; y mae ei darlun eisioes yn ddwfn ar lech gysegredig fy nghalon; ond i ymholi os yw'r duwiau yn foddlawn."
"Ydynt," ebai'r ddewines, "un ffordd; nag ydynt, ffordd arall."
"Eglura," ebai Goronwy.
" Y mae i Forfudd frawd, ewyllys yr hwn sydd mor anhyblyg a thynged ei hunan. Rhaid iti naill ai plygu yr ewyllys hono neu enill ei serch. Plygu ei ewyllys nis gelli."
"Ond pa fodd yr enillaf ei serch, ynte?"
"Trwy arbed ei fywyd," ebai'r ddewines."
"Pa le, pa fodd, pa pryd, y caiff Goronwy ab Gredifel gyfleustra i arbed bywyd Reinhallt ab Gruffydd o'r Twr?"
"Yn nghynt nagy disgwyli. Hwyrach mai mewn breuddwyd heno; cadw dy lygaid yn agored, a'th gledd yn finiog. Nos dda it', filwr. Dos," ebai Cadi, gan ddiffodd y frwynen, agoryd y drws, a thrwy ei hymddygiad cystal a phe rhoisai droediad