i'w hymwelydd tros y rhiniog allan i'r heol gul, a chauodd y drws yn ddigon difoes yn ei wyneb.
"Nos dda it', ellylles, neu brophwydes, pa un bynag ydwyt; 'does neb fawr ddoethach nelo hyny glywo genyt ti a'th fath," ebai'r milwr wrtho ei hun, gan ddychwelyd yn brysur, ac edrych ar dde ac aswy, rhag fod rhywun yn ei weled yn ymdaith felly gefn trymedd y nos yn y fath le. A thra yr oedd ef yn hunan-sibrwd ar ei lwybr, "Pethau rhyfedd ydyw dewiniaid," yr oedd hithau yn chwerthin yn ei llawes ac yn dweyd, "Dyna un pleidiwr i ymgyrch Reinhallt heno, beth bynag."
Fel yr oedd Goronwy yn brysio yn mlaen, daeth dyn (gan belled ag y gallai ef farnu yn y tywyllwch) yn bwtsh i'w gyfarfod; a chiliodd yr un mor sydyn yn ei ol. Pwy a pha beth ydoedd nis gwyddai; bu yn dyfalu am ychydig beth ydoedd; ac os dyn, pwy? Ond llithrodd ei fyfyrdodau yn fuan at y neithior— ei bod weithian wedi dechreu, a goreu po cyntaf y lluniai rhyw esgusawd dros ei anmhrydlondeb. Cyrhaeddodd yno, a chafodd y floddest eisioes wedi dechreu; a'r gwest ar ei draed yn anerch (mor rigil ag y caniatai ei dafod bloesg) ei westeion. Cyfeiriai at fuddugoliaeth yr Yorciaid ar faes Hexham; ac wrth ei ddull pendant yn prophwydo llwyr ddinystr y Lancastriaid, meddyliai Goronwy fod Brown a Chadi Gyfarwydd yn darllen yr un llyfrau. Odid yr agorai un o Saeson Caerlleon ei big yn yr oes hono heb roddi lach i'r Cymry. Ebai ef:—
"Y mae'r Cymry yn Gastriaid i gyd; ond fe laddwyd canoedd o honynt yn Hexham; diolch i Dduw am hyny. Draen yn ystlys Lloegr ydyw'r