genedl fechan, ddinod, droednoeth hon er y dydd y glaniodd Hengist, ein tad ni oll, gyntaf yn Mhrydain: a goreu bo'r cyntaf y diwreiddier y ddraen, wreiddyn a changen. (Gan droi at y gwasanaethyddion,)-Dygwch y llestri arian yna a gymerais i a'r penceisbwl ddoe oddiar y prydydd Cymreig gwirionffol hwnw a feiddiodd droseddu un o'n cyfreithiau gonest ni trwy briodi gweddw un o'n dinasyddion, sef yw hono Dolly Cheshire. Dyma nhw. Yfwch win o honynt i lwyddiant Yorciaid, a dinystr eu gwrthwynebwyr, yn enwedig pob Cymro yn mhlith ein gelynion."
Prin y gallai Goronwy gynwys ei hun yn ei groen wrth wrando ar y cabledd iselfoes hwn. Cychwynodd unwaith tuag allan, ond barnodd wed'yn mai rhoddi pwysigrwydd ar beth a ddylai fod islaw sylw a wnai hyny. "Ffwl meddw fel hyn yn siarad," ebai, "nad oes ganddo yr un teithi rhagorol ar ei elw ond gwynebgaledwch; llyfrgi a ffoai am ei fywyd oddiar ffordd cyw ceiliogwydd. A dyma lestri r prydydd, druan, ysgatfydd nad yn meddiant yr archleidr hwn yr arosant; ni chair mo honynt o fachau y Carn-Sais ysgeler hwn mwy nag y ceir caws o ganol corgi."
Aeth y wledd yn mlaen am oriau, cyfeddach ddylesid ddweyd, oblegyd yr oedd dynion yr oes hono wedi dechreu troi nos yn ddydd; ond gan na ddywedwyd dim yn gyhoeddus ynddi ond yn yspryd gwantan Robert Brown, a phob llefarwr yn yr un cyflwr glwth ag yntau; ni a'u gadawn man y maent, er mwyn dychwelyd at hanes eraill sydd yn dal cysylltiad a'r rhamant.