un wlad ag Owen Glyndwr a Llewelyn. Welaist neu glywaist ti rywbeth oddiwrth bobl y Wyddgrug?"
"Gwelais o groglofft y Baril yr arwydd; ac ni ryfeddwn i na byddant oddiallan i'r muriau cyn y gwaedda'r gwylwyr haner nos."
"Rhaid rhybuddio'r llanciau i fod yn barod i wneud rhuthr ar y porthorion oddifewn y foment y byddo Reinhallt yn ymosod oddiallan."
"Rhagorol iawn," ebai Robin. "Y mae dy ben di yn ddigon hir i fod ar ysgwyddau cadlywydd."
Yfai'r hen ddewines eiriau'r canmolwr, fel yr yf ych sychedig ddyfroedd peraidd, a gwenodd nes haner ymlid ymaith yr hacrwch a'i nodweddai.
"Rhyfedd iawn ydyw serch, Robin," ebai hi.
"Rhyfedd iawn," ebai Robin.
"Deimlaist ti oddiwrtho erioed?י
"Dim, o drugaredd," oedd yr ateb.
"Fel pob llencyn serchnwyfus, mynai Goronwy godi'r llen oddiar lwybr tynged. Fe dyr ei galon wirion cyn pen nemawr amser os na chaiff gyfleusdra i arbed bywyd brawd ei ddyweddi."
"Poed felly y bo," ebai Robin.