Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fy mrodyr, ebai Reinhallt, "cofiwch mai nid gwaed nac yspail ydyw ein neges i Gaer heno; ond mai ein hamcan ydyw adfer i ddyn o'r un gwaed a ni eiddo a gymerwyd oddiarno trwy drais. Eithr o saif perchen gwaed ar eich ffordd gan geisio eich lluddias i gyrhaedd yr amcan mewn golwg, nid oes ond ei frathu. Brathwch hyd y carn y sawl a'ch rhwystro. Cadwch yn nghyd yn yr ysgarmes; cofiwch mai hawdd tori edefyn ungorn."

Wedi gorphen yr oedfa hon o weddi a phregeth, ymdeithiasant yn mlaen i'w hymgyrch feiddgar, gan gerdded yn araf a dystaw fel na ragflaenid eu hymddangosiad gan eu trwst. Daethant yn fuan i ymyl y ddinas, a safasant er mwyn clustfeinio. Tybid fod y porthorion yn cysgu. Safent gerbron y dring-ddrws (port-cullis), ac nid oedd ond tawelwch y bedd o'u deutu, oddieithr fod y gwynt gauafol yn chwiban yn awr ac eilwaith yn rhidyllau'r mur gerllaw. Ar amrantiad, rhoddwyd y gorchymyn:

"Rhuthrwch ar y ddôr fel ungwr, a gwthiwch ef ar gefn ei wylwyr."

Rhuthrasant arno fel tarw hyrddiog; ond er cryfed yr hyrddiad, daliodd y port-cullis yn ddigon dieffaith, oddigerth iddo grawcian dan yr ergyd. Methai'r gwylwyr haner cysglyd oddifewn ddirnad pa beth a barasai y fath swn, ac agorodd un o honynt gil y drws yn ddigon difeddwl, gan fod y llawenydd oherwydd buddugoliaeth Hexham wedi cyrhaedd calon hyd yn nod y gwylwyr distadl, ac alltudio o honynt bob pryder a seremoni. Trwy gil y drws felly, ymwthiodd tri o'r Cymry er