Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaethaf ei geidwaid i mewn, a brwydr boeth a ganlynodd rhwng y rhai hyn a'r porthorion, tuag ugain mewn nifer. Dechreuodd gwaed redeg yn ebrwydd, ac er ffyrniced yr ymladdai'r triwyr dewr hyny, gorchfygid hwy gan y lluaws gwyr yn eu herbyn. Cafodd un o'r tri ergyd enbydus â dagr yn ei fraich ddehau, yr hyn a'i hanalluogodd; a gwthid y ddau arall yn gyflym i gongl ag y buasai raid iddynt yn fuan roddi arfau i lawr. Yn y cyfwng pwysig hwn, wele Robin Bondigrybwyll, a'i ddeuddeg Cymro, yn ymddangos ar y chwareufwrdd, ac yn ymosod ar y porthorion o'r tu cefn, yr hyn a barodd ddychryn ac anhrefn yn mhlith y Saeson. Ffodd y naill haner o honynt i ystafell gyfleus oedd yn y Twr gerllaw, a phrysurodd y gweddill i ystafell arall gyferbyn. Bolltiwyd y dorau arnynt, a chodwyd y ddring-ddor fel y deuai Reinhallt a'i wyr oddiallan i fewn. Efe a ganfu ar unwaith sefyllfa pethau, ac archodd ddiarfogi gwyr un ystafell yn nghyntaf, ac yna y llall; a gadael ychydig wyr yno gyda chleddyfau noethion i'w gwylio nad ynganent air ac na wingent o'r lle dan berygl marwolaeth. Hyny a wnaed; ac yr oedd y gwylwyr bostfawr hyny mor ddiymadferth a babanod newydd eni. Er pwysiced y digwyddiadau uchod, cymerasant le mewn llai na chwarter awr o amser, ac mor ddidrwst fel na chythryblwyd undyn ond y pleidiau ymladdol eu hunain. Na, gan gofio, yr oedd un arall yn llygad-dyst o'r miri;—safai Cadi Gyfarwydd heb fod nepell o'r lle yn eirias chwilboeth o ddyddordeb yn yr helynt, gan gau ei dyrnau, cnoi ei gwefusau, a galw bob yn ail ar ei Thad yr hwn sydd yn y nefoedd, ac ar dad arall i Gadi, fel y dywedai Robin, "yr hwn nid yw yn y nefoedd,"