drwm ei gam am orig neu ddwy wrth y tân; ac wedi i Lewis eu hadgoffa "fod gobaith o ryfel ond nid o fedd," cymerodd yr ymddyddan agwedd dipyn siriolach. Dechreuodd Morfudd adrodd adgofion digrif am rai o gampau direidus Reinhallt pan yn blentyn.
"Wrth feddwl," ebai 'r bardd, "Morfudd, yn mha le y cafodd dy frawd ei ddysg? canys dysg ei wala yn ddiau sydd ganddo."
"I ddechreu," ebai'r rhian deg, gan fy mam wirion, sydd er's blynyddau yn y bedd—hyhi a ddysgodd iddo ddweyd ei bader, cyfrif ei baderau, ac ymgroesi. Yna, ei hebrwng a gafodd i fynachlog Basing, er ymgydnabod â defodau crefydd a dysgu Lladin, a'i athraw yno ydoedd Ieuan Offeiriad, rholyn o fynach boddlon yn saim o'i goryn i'w sawdl."
"Ac yn meddwl mwy am ferched teg," ebai Sion, "ac am gwrw, nag am grefydd a defodaeth." "Adwaen y gwr yn dda," ebai'r bardd, "ond ewch chwi yn mlaen."
Parhaodd Morfudd, "Wedi treulio blwyddyn yn Basing, yn benaf yn perffeithio ei ddireidi bachgenaidd, bu am rai misoedd yn Nghaerlleon gyda marsiandwr yn dysgu Saesneg."
"Daw ei Saesneg a'i hyddysgrwydd o ddaearyddiaeth Caerlleon o wasanaeth iddo heno, mae yn dra thebyg," ebai Lewis.
"Bwriadai ein tad wneud offeiriad neu farsiandwr o hono," meddai Morfudd.
"Ond trech natur nag arfer," ebai Gwenllian.
Hwyrhaodd yr hwyr tan chwedleua am y naill beth a'r llall; Lewis yn "ymddarostwng" i gyfarfod