ansawdd meddyliau y tri arall, a hwythau yn ymddyrchafu goreu gallent i gyfarfod chwaeth yr arwydd-fardd; nes o'r diwedd y dechreuid meddwl fod cwsg yn felusach nag ymddyddan. Ond dyna siriad yn y gegin, llef baban yn crio, a swn troed a llais neb amgen y Bondigrybwyll yn dyfod ar frys at yr ystafell yr eisteddent ynddi. Daeth i fewn a chanddo enethig fach anwydog tua theirblwydd oed ar ei fraich.
"O b'le y daethost, Robin?" ebai Sion, "a pha le y cefaist y plentyn yna sydd ar dy fraich." "Bondigrybwyll, o Gaer, ac ar Forfa Caer, mewn ffos clawdd, y cefais y plentyn. Dyna i chwi blentyn iawn i'w gael ar lawr."
"Welaist ti Reinhallt a'r fintai?"
"Bondigrybwyll, gwelais hwynt; y maent yn groeniach ddiangol oddifewn i furiau Caerlleon. Trwy gydgyfarfyddiad hapus callineb, ystryw, a damwain, cawsant borth yn lled ddidrafferth a digolled oddigerth braich Rodri o Dreuddyn, yr hon a archollwyd yn dost. Wedi iddynt fyned i mewn, minau a lithrais yn lladradaidd allan, modd y dygwn y newydd i chwi y gwyddwn oedd yn bryderus am dano. Cymerais un o'r meirch danaf, carlamais yn chwyrn, clywais lefain plentyn, pigais berchen rhynllyd y llef i fynu, a dyma'r plentyn, a dyma finau."
"Mawrglod a diolch it," ebynt oll yn unllais, "y mae Robin yn dyfod i'r golwg bob amser y bo ei eisiau."
"Ond pa beth a wnawn ni â'r plentyn hwn?" ebai Sion ab Gruffydd.
"Ei fagu," ebai Morfudd, "beth arall a wnawn â chreadur ddanfonodd y Forwyn Sanctaidd atom megys o bwrpas i'w feithrin a'i ymgeleddu."