Yn nghynwrf y symud ystolion o gyrhaedd y gafod genllysg drom, daeth cenad i'r ystafell yn hysbysu fod dynes druanaidd ei gwedd a'i diwyg wrth y porth yn deisyf siarad gair â Morfudd, os nad oedd hyny yn ormod cymwynas i'w gofyn ar y fath awr o'r nos. Nac oedd ddim; ymaith â hi, a chafodd y druanes yn pwyso ar ystlysbost y drws mewn haner llewyg. Gwelai yn union ei bod yn wrthddrych arbenig trugaredd; gwahoddodd a chynorthwyodd hi i'r gegin. Yr oedd dagrau, chwys, a chenllusg, wedi ei gwneud yn wlyb dyferol; a dygai yn ei chorph nodau amlwg adfyd a chaledi. Trwy ymdrech y gallai dynu ei hanadl boenus; ac yr oedd mor neillduol o wan, fel mai prin y gallai yngan ei chais a'i dymuniad.
"Morfudd," ebai hi, "nid wyt yn fy adwaen, (ac yr oedd hyny yn eithaf gwir,) mam y plentyn yna ydwyf; a genedlwyd trwy drais, ac a ymddygwyd mewn gofid mawr; ac a fagwyd hyd yn hyn mewn dygn drallod a chaledfyd, Robert Brown, maer Caer pan anwyd y lodes fach ydyw'r
; a pharodd tan fygythiad o'm lladd ei boddi yn yr afon Ddyfrdwy. Fedrwn i ddim! fedrwn i ddim," ebai hi gan wasgu ei dwylaw yn nghyd yn ngwasgfa ei henaid. "O! rian deg a hawddgar," ebai hi drachefn, "tosturia wrth Gymraes dlawd yn min marw;—-nodda fy mhlentyn!"A chyda'r gair syrthiodd yn farw ar lawr y gegin. Yr oedd yn amlwg ei bod gerllaw yn gwylio 'r plentyn; a phan gododd Robin ef i fyny, rhedodd ar ei ol gyda chyflymdra ac yni a ddychwel weithiau i gyfansoddiad yn dadfeilio, fel fflam ddiweddol canwyll, yn enwedig pan chwythir yr adfywiad gan angerddoldeb cariad mam.