Cadwodd y Cadben Ifan ei hunan-feddiant yn rhagorol. Agorodd ddrws y cefn a daeth y gwyr yn llifeiriant i mewn. Yr oedd portread wedi ei roddi iddynt gan yr hen ddewines pa le y cedwid eiddo gwerthfawrocaf Lewis; a chyrchasant tuag yno. Pa fodd bynag, yr oedd drysau cedyrn cauedig yn eu rhwystro, a thu cefn i'r rhai hyny, yn ol pob tebyg, wyr arfog bellach yn eu gwarchod. Petrusent pa beth i'w wneuthur, ond deallai Reinhallt fod pob mynud yn treblu eu perygl.
"Rhuthrwch ar y drysau âg un ymdrech egniol," ebai ef, "a bwriwch hwynt i lawr fel magwyr geryg gandryll."
Rhuthrasant felly, a bwriasant y dorau o haiarn a'u fframiau bendramwnwgl am benau eu gwarchodwyr, a dau o'r rhai hyny a laddwyd yn farw gelain yn y fan. Y gweddill a ffoisant yn annhrefnus o'r tu ol i ddorau cyffelyb eraill. Ond nid oedd angen eu hymlid gan fod y grisiau bellach yn rhydd, ac mai yn y llofft yr oedd yr eiddo atafaeledig i'w cael. Arweiniodd Reinhallt chwech o wyr i'r ystafell hono,ac yn ddiymaros bwriasant i lawr lestria rian, creirau gwerthfawr, a thwysged o lyfrau gwerthfawrocach fyth, yn cynwys hanesiaeth, achyddiaeth, barddoniaeth, &c, gyda gorchymyn ar i'r oll o'r cyfryw gael eu dwyn ymaith ar frys gwyllt at y Porth.
Nid oedd y gelynion yn y cyfamser yn segur. Safai'r ystafell lle cynelid y wledd tua chan' llath oddiwrth y ty-gan nad oedd yn y ty yr un ddigon o faintioli. Danfonwyd cenad frysiog at Brown i'w hysbysu fod lladron yn ei balas, a'u bod wedi lladd a chlwyfo amryw o'i weision; ac er fod y loddest wedi cerdded yn mhell, y cynnulliad wedi