teneuo trwy fod amryw wedi ymadael, a'r sawl oedd yn aros fwy neu lai tan ddylanwad swyngyfareddus diod gadarn, parodd y newydd i'r gweddill neidio ar eu traed, a sefyll goreu gallent mewn pensyfyrdandod.
"Daliwn, dialwn!" ebynt oll gydag un llais, a rhedasant goreu gallent tuag at y ty yspeiliedig. Tra yr oedd swn eu traed hwy i'w glywed yn nesu at ffrynt y ty, yr oedd swn traed y sawl a gludent eiddo yr arwydd-fardd yn pellhau oddiwrth gefn y ty. Ond yr oedd Reinhallt a deuddeg o'i wyr eto yn aros—yn aros i chwilio os oedd ychwaneg o'r meddianau atafaeledig yn gorwedd yn rhywle oddeutu. Daeth y ddwyblaid, modd bynag, yn fuan wyneb-yn-wyneb a'u gilydd, ac aeth yn daro ffyrnig rhag blaen. Fflachiai tân o ddur y cleddyfau, a suai saethau ar eu hediad dinystriol; ond gan fod maes yr ymladdfa yn gyfyng, nis gallai ond ychydig nifer o bobtu gymeryd llaw ynddi. Daliai'r Cymry eu tir yn ddewr, er fod dau o'r deuddeg wedi eu harcholli yn dost. Syrthiodd amryw o'r Saeson. Neidiodd Brown fel teigr i boethder y frwydr. "Gweithiwn ein ffordd trwyddynt," ebai Reinhallt.
"Dyma ddifyrwch braf sydd gan foneddigion y Wyddgrug," ebai'r cyn-faer Robert, "tori tai a lladrata."
"Tydi ydyw'r lleidr, Brown," ebai'r Cymro'n yr un iaith ag ef, " y lleidr duaf, mwyaf ysger yn mhlith lladron Caerlleon."
"Pa beth!" ebai Brown, galw dyn yn lleidr yn ei dŷ ei hun, "lladdwch y Geifr gwylltion!" "Lladdwch y Cwn cynddeiriog," ebai Reinhallt, a'i gleddyf yn chwirlio yn ddibaid, er ceisio tori