adwy at yr archleidr; ac ofnid y buasai poethder ei dymher yn peryglu ei hoedl."
Yn ngwyneb dewrder ffyrnig Reinhallt, a'r symbyliad a roddai hyny i'w ychydig wyr, y Saeson a giliasant yn ol, a chauasant y drws ar eu holau fel y gallent ail-drefnu eu rhengau. Erbyn hyn, yr oedd eu nifer yn cynyddu'n gyflym, a rhai o'r Cymry a anogent eu llywydd penderfynol i fanteisio ar yr egwyl, ac encilio gynted gallent. Ond yr oedd gwaed y Cymro ieuanc wedi poethi, a'i ateb ydoedd,
"Ewch chwi ymaith. Mi a ddaliaf y bwlch hwn yn erbyn mil o lyfrgwn gwagsaw."
Ar hyn, agorodd y Saeson y drws eilwaith, a'r cyntaf i ruthro trwyddo ydoedd Dic Alis, rhemwth cethin o Sais bloedd-fawr, hacred ei bryd ag un o ellyllon y fagddu fawr, tyngwr arswydus, fel pe buasai ei dafod wedi ei bedyddio yn nhân uffern ar yr enw "Rheg;" penrhuswr a phrif ymladdwr gornest Caer a'r wlad o'i hamgylch; tynwr cleddyf dihafal, dibris o'i hoedl ei hun a llawer llai o fywyd cyd-ddyn. Rhuthrodd y rhydor iselfoes hwn yn mlaen fel dywalgi gwaedlyd a sugnasai fronau arthes. Chwifiai gleddyf hirlafn yn ei law aswy (canys adyn llawchwith ydoedd) â'r hwn yr anelodd ergyd farwol at ben y Cymro a safai mor ddigryn a delw o'i flaen. Reinhallt yn fedrus a ataliodd ymgais cleddyf ei elyn â chefn ei gleddyf ei hun. Edrychasant felly am fynud ar eu gilydd, a dialedd yn gwreichioni o'u llygaid, fel y melltena gwefrdan odditan ael cymylau bygythiol. Ymladdfa cewri ydoedd; o ran nerth a medr cyffelyb i un o ornestau dynion-dduwiau ffugdraith yr hen Roegiaid. Neu, a benthyca cydmariaeth yn nes adref, o faes toreithiog ein ffugdraith ein hunain,