Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid annhebyg ydoedd i ornest Arthur Gawr a Medrawd Fradwr.

Clecian arfau gwreichionllyd y buwyd am encyd hir; yr oedd y ddau mor hylaw gyda'r gwaith, fel y parhaodd yr ymdrech amser maith. O'r diwedd, gwylltiodd Dic Alis, a rhuthrodd yn anmhwyll yn mlaen, gyda'r amcan o drywanu ei wrthwynebydd yn farwol yn ei fynwes. Rhoddes hyn fasgal i Reinhallt i gyrhaedd iddo yntau ergyd dychrynllyd ar ei ben; a Dic a syrthiodd yn drwm ar ei hyd-gyd yn y lobi gul a droisid fel hyn mor sydyn yn faes ymladdfa. Meddyliodd y Saeson fod eu gwron wedi ei ladd yn farw gelain; ond mewn llesmair yr ydoedd, fel y profai'r amryfal regfeydd a ebychai yn awr ac eilwaith. Ei gyfeillion a'i llusgasant o'r fan gynted gallent; a thra y cymerai yr oruchwyliaeth hono le, safai Reinhallt a'i ddwylaw yn mhleth gan edrych arnynt yn berffaith ddifraw.

Wedi symud y corph archolledig o'r llwybr, dyma wneud rhuthr gan bump neu chwech ar unwaith ar ein harwr, a phe lloriasai y rhai hyny, yr oedd digon drachefn yn ngweddill i gymeryd eu lle; fel y darfuasai am dano yn ol pob golwg, oni bai ddyfod o Gymro yn mlaen â geiriau a glywsai y noson hono yn llosgi yn ei fynwes. Canys beth yw un, bydded mor bybyr ag y bo, i ymgais yn erbyn lluaws tref?

"Lladdwch, sathrwch a chwarterwch y filain," ebai Robert Brown, ond cyn fod y geiriau yn gwbl o'i enau cyrhaeddodd Reinhallt ergyd iddo yntau a barodd iddo hel ei lygaid. Ond fel y dywedir am rai o'r creaduriaid israddol, po fwyaf leddir o honynt lluosocaf oll yr ant tan y driniaeth,