Yn y cyfwng peryglus hwn, dyma y llanc crybwylledig, swyddog milwrol a Rhosyn Gwyn yn ei gap, yn neidio yn mlaen.
"Chwareu teg hefyd," ebai ef, "un yn mhen un; mi a'i cymeraf yn awr mewn llaw." Ac estynodd ei law noeth agored i Reinhallt, yn arwydd nad oedd am daro. Ciliodd y Saeson yn ol gan ddisgwyl gornest law-law arall. Amneidiodd y Cymro ar i Reinhallt gilio yn ol; nas gellid ymladd yn iawn mewn lle cyfyng felly. Ac wrth gilio yn ol at y gegin, y swyddog a wisgai'r Rhosyn Gwyn a fwriodd i lawr yn fwriadol y lamp fechan a fuasai hyd yn hyn yn taflu ei llewyrch gwanaidd i'r ymladdwyr; a thrwy hyny, gadawyd y ddwyblaid i ymbalfalu am eu gilydd yn y tywyllwch. A thra yr oedd y Saeson yn ymdeimlo am y gelyn ac am eu gwron newydd, sisialai llais isel yn nghlust Reinhallt:
Myfi yw Goronwy ab Gredifel o Gilcen; ffo am dy einioes; os wyt yn caru dy hoedl dy hun, cysur dy deulu, a dy wlad."
Eithr ni fynai yntau wrando ar y cynghor. Ffoi oedd y peth diweddaf y meddyliai am dano un amser; ac yr oedd syniad am gysur ei anwyliaid hyd yn nod wedi ei alltudio ar y pryd o'i fynwes. Bygythiodd anffodion Dic Alis a Robert Brown ar ben Goronwy os anogai ef drachefn i ymddwyn mor anfad.
"Ni waeth i ti heb fy nharo i," ebai Goronwy, "ni thynaf fi gleddyf byth yn erbyn cydwladwr." Enillodd geiriau mor wladgar dipyn o sylw a serch Reinhallt; ac er cryfed ydoedd, ac er mor wrthwynebus i'w natur ydoedd cilio yn fyw o'r fan, yr oedd ei gyfaill hefyd yn gryf, ac er ei waethaf