gwthiodd ef o'i flaen at y drws. Cauodd a bolltiodd hwnw yn ddyogel ar ei ol, gan adael Reinhallt a'i wyr yn ddiangol oddiallan, a Chadi Gyfarwydd yn eu plith yn llongyfarch ei heilun ar ei oruchafiaeth ac yn ei anog i fyned ar frys gwyllt at y porth rhag fod ei wyr yno mewn perygl.
Er fod rheswm y Gyfarwydd yn un amserol iawn, ni fynai ef ar y cyntaf gydsynio, ond pan oerodd ei dymherau, gwelodd nerth y peth ac ymaith ag ef.
Goronwy pan ddychwelodd at ei gyfeillion a ymesgusododd drwy ddyweyd ei fod ef wedi colli y gelyn yn y tywyllwch anffodus a ddigwyddasai. Hwythau yn amheu y ffoisai efe trwy y cefn, diangfa na feddyliasent hwy yn eu ffwdan am dani cyn hyny, a redasant, a chyrhaeddasant y fan pan oedd swn traed Reinhallt a'i wyr yn darfod yn y pellder. Erbyn eu dyfod, nid oedd yno neb ond yr hen ddewines ei hunan, yn llercian oddeutu fel pe buasai yn meddwl fod ychwaneg o'r Cymry yn y ty, ac yn ymdroi o gylch y lle fel y gallai fod o rhyw gymhorth iddynt. Ond daeth y Saeson ffyrnig-wyllt yn mlaen, ac yn cael ond yr hen Gymraes yn unig yno, tywalltasant arni holl gynddaredd eu digofaint; milwr a'i trywanodd yn ei chalon, a hi a syrthiodd yn farw heb gymaint ag anadlu ochenaid.