Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHEINALLT AB GRUFFYDD.

PENOD Ι.

BRYDNAWN drycinog o fis Chweroer, yn y flwyddyn o oed Cred a Bedydd 1465, gallesid gweled dyn canol oedran yn dringo'r rhiw sydd yn ymgodi 'n raddol rhwng Morfa Caerlleon Gawr ar Ddyfrdwy, a'r Wyddgrug, yn sir Fflint. Yr oedd yn amlwg o hirbell ei fod yn dwyn llwyth o ofidiau, heblaw ysgrepan ledr o gryn bwys a maintioli. Cerddai yn anwadal—weithiau 'n frysiog, a phryd arall yn ymarhous a hwyrdrwm ei gam. Chwelid cudynau ei farf hirllaes, a llywethau ei wallt brithwyn, gan y rhew-wynt, yr hwn hefyd a dreiddiai trwy ei wisg lom, rydyllog, a thenau. Ond, yn ol pob ymddangosiad, ychydig sylw a dalai ef ar y pryd i hinon na huan. Fel y dynesai, gwelid ar gipedrychiad nad dyn cyffredin mo hono, canys yr oedd myfyrdod wedi dodi ei nodau diamwys arno, a meddwl noeth fel pe buasai yn tremio trwy blisg ei lygaid gleision, rhadlon yn naturiol. Ond yr oedd y llygaid hyny yn awr yn adlewyrchu calon ddigllawn ac ysbryd cythruddedig. Tynai lipryn o femrwn allan o'r ysgrepan yn awr ac eilwaith, ac ysgrifenai rywbeth arno; ac er croesed ei dymher, neidiai gwên foddhaus yn ddiarwybod a damweiniol i'w wyneb, yr hon a giliai drachefn i roddi lle i'r nwyd a'i llywodraethai ar y pryd—difrifoldeb diragrith a dialgarwch anfaddeuol. Rhoddai'r llipryn memrwn yn