PENOD X.
PAN gyrhaeddodd Reinhallt y Porth, ac nid heb gryn lawer o groeslwybro y gwnaeth efe a'i wyr hyny, cafodd eiddo Lewis yn ddyogel yn nghadwraeth y rhai yr ymddiriedasai efe hyny o orchwyl iddynt; a bod y porthorion hefyd yn ddyogel yn y tyrau y gosodasai ef hwynt o'u mewn deirawr yn nghynt. Mae'n wir nad oeddynt wedi treulio y teirawr crybwylledig yn gwbl foddlon, a'u bod fwy nag unwaith wedi bygwth tori trwy yr angenrhaid a ddodwyd arnynt; ond yr oedd cleddyfau noethion eu gwarchodwyr yn cadw pob ymgais o'u heiddo tanodd.
"Os ydym oll yn barod," ebai 'r penaeth, gwnawn y goreu o'n ffordd a'n hamser; dodwch yr eiddo o'ch blaenau bob un ar war ei farch; a rhybuddiwch yr adar ysglyfaethus cawellog yna, os agorant eu pigau am haner awr y byddant yn fwyd braf i gwn crwydrol y Morfa yma cyn codiad haul."
Neidiasant ar eu meirch: Rodri o Dreuddyn, yr unig un a dderbyniodd niwaid o bwys, yn wrthddrych eu gofal arbenig; a charlamwyd ymaith. Yn mhen pum' munud wedi iddynt hwy adael y Porth, wele genfaint Brown yn cyrhaedd y lle, ac er fod yn eu plith erbyn hyn amryw filwyr, teimlent un ac oll eu gwaed yn rhedeg gryn lawer rhwyddach pan ddeallasant fod y Cymry wedi ymadael, canys o bawb yr erlidiedig oedd y rhai olaf y dymunent eu goddiweddyd. Cymerodd beth amser iddynt ollwng eu cyfeillion carcharedig yn rhyddion, ac yna udasant wchw fawr am ymlid ar