ol y gelyn a'i ddal os oedd y fath beth yn alluadwy heb fyned yn rhy agos ato. Ond yr oedd gwyr y Wyddgrug bellach wedi tori cryn dipyn o gwt eu ffordd gartref. Gollyngasant eu brodyr carcharedig yn rhydd, a chodwyd wchw fawr i ymlid ar ol y gelyn a'i ddal os oedd y fath beth yn alluadwy (heb fyned yn rhy agos ato.) Ond rhoddai y Cymry y cam goreu yn mlaen; nid oeddynt heb eu hofnau; canys pe cawsent eu goddiweddyd, dichon y collasent holl ffrwyth eu llafur a'u peryglon. Wedi cyrhaedd tua milldir o'r ddinas, troisant ar eu dehau, gan gymeryd y ffordd oedd yn arwain tua Fflint, a dewis croesffyrdd yn hytrach na'r brif-ffordd fel y llwybr tebycaf i'w hymlidwyr golli trewydd arnynt.
Nid arosodd Robin nemawr amser yn y Twr ar ol traddodi ei genadwri a chael tamaid o fwyd; brysiodd yn ol tua Chaer rhag y byddai o ryw wasanaeth yno; ond oherwydd i'w gyfeillion gymeryd y drofa grybwylledig, ni chyfarfyddodd hwynt yn ol ei ddisgwyliad. Bu amryw o honynt hwythau yn nghwrs eu hymddyddan ar eu taith yn holi, yn dyfalu, ac yn rhyfeddu pa beth a ddaethai o Robin; nid oeddynt wedi ei weled yn fyw nac yn farw er pan ymrithiasai mor annisgwyliadwy a drychiolaeth yn mhorth y ddinas ar eu mynediad gyntaf o'i mewn. Yr oedd rhywbeth mor anesboniadwy o ddyeithr yn hyn i Reinhallt, fel yr ocheneidiodd yn hyglyw fwy nag unwaith. Pa fodd bynag, yn anffodus iawn, daeth Robin yn bwtsh anmharod i gwrdd mintai ddrygnaws y gelyn, pan y disgwyliai gyfarfod cyfeillion. Yr oedd wedi gadael ei geffyl yn mhen draw y Morfa; a da iddo hyny, onide buasai amheuon y Saeson