Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddigon cryfion i benderfynu ar unwaith ei fod yn gyfranog â gwyr y Wyddgrug, fel na chawsai ond byr amser i ddyweyd ei bader a gwneyd ei ewyllys. Fel yr ydoedd, dodasant ddwylaw yn ebrwydd arno gan ei hawlio fel carcharor, a gofynasant iddo yn sarug os y cyfarfyddasai a'r archleidr hwnw o'r Twr, a hanai mewn llinell unionsyth o Gain ab Adda. Profedigaeth chwerw i Robin ydoedd gwrando ar ei feistr yn cael ei ddifenwi, ond "cofiodd mai da cael dant i atal tafod," a brathodd yr aelod olaf yn dra ffyrnig.

"Os gweli di yn dda," ebai milwr coeglyd, "mi a ddodaf y cyffion hyn am dy arddyrnau."

Medrai Bondigrybwyll oddef yn lled dawel gryn lawer o gerydd ac o ddigofaint; ond yr oedd coegni iddo yn halen ar gig noeth; a chan nad oedd dwy res ei ddannedd yn hollol ddifwlch, daeth yr aelod peryglus yn rhydd, a rhoddes fod i ymadrodd o anufudd-dod pendant i oruchwyliaeth y cyffion. Yr oedd y milwr dywededig yn fawr ac yn gryf, a Robin er yn fychan yn ddewr, ac aeth yn gythryfwl rhyngddynt mewn munud, yr hyn a derfynodd trwy i ddau neu dri ymuno â'r milwr, a dodi'r cyffion yn sicr yn eu lle bwriadedig.

"Gwell i chwi ddodi llyffetheiriau eto am fy fferau," ebai ef, "canys ni symudaf fèr o'r fan mwy na phe dodasech lwyth o haiarn wrth fy nhraed."

"Aie, felly," ebai'r Saeson, "hwyrach y chwenychet gael dy gludo wrth ysgil un o honom?"

"Mi a 'spardynaf ddwy balfais y march hwnw yn gyrbibion," ebai'r dyn bychan digofus, "cofiwch mai Cymro ydwy' i."

Ac yr oedd Robin mor ryfeddol o gyffrous ac anystywallt fel y torodd y Saeson allan i chwerthin