am ei ben, a chwerthin y buont hyd oni archwyd iddynt gan rywun a alwai ei hun yn gadben, frysio, onide mai ofer iddynt ymlid yn mhellach.
"Un yn mhen un; dyn dwylath yn mhen dyn dwylath, ac mi a ymladdaf hyd y dyferyn olaf o waed sydd yn fy nghalon," ebai Robin.
"Twt, lol! ffwrdd a hi," a chipiodd rhyw Sais dibris ef gan ei osod o'i flaen ar ei farch, a charlamodd yr ymlidwyr ymaith.
Nid oedd Robin yn haner boddlon ar ei gyflwr; yspardynai grimogau ei gaethgludwr, a hwnw am yspaid yn dyoddef tan ryw haner chwerthin a chyrhaedd bonclust iddo yn awr ac eilwaith. Ond, aeth y crimogau o dipyn i beth yn ddolurus, a chan nad oedd goruchwyliaeth y bonclustio yn cael ei heffaith ddyladwy i beri llonyddu'r pedion, traws-symudodd ef o'r tu cefn-i'w ysgil. Yn yr ysgil, rhoes y Chwerwyn ei fygythiad blaenorol ar lawn waith, trwy yspardynu y march â'i holl egni. Gwylltiodd yr anifail, a charlamodd ymaith fel pe am ei fywyd yn mhell bell o flaen y rhelyw o'r fintai; yr hyn a ddychrynodd y caethgludwr i lesmair bron, rhag yr ysgubid ef fel hyn i ganol y gelynion. Daliai Robin, pa fodd bynag, i yspardynu'n galed, er gwaethaf rhegfeydd ei gydfarchog, a'i ymgais barhaus i'w fwrw i lawr. Yr oedd yn amlwg hefyd fod Robin yn well marchogwr na'r Sais, oblegyd yr oedd dwy fraich yr olaf er's meityn am wddf y ceffyl, a thusw o'i fwng rhwng ei ddanedd; a phan ddeallodd nad oedd drwy hagr yn tycio i lonyddu ei sodlau, mwngiai ei gais trwy deg. Gan i'r fintai Gymreig gymeryd y drofa hono, ni ddarfu i Robin a'i gydymaith eu goddiweddyd; a phan ddeallodd gwyr Caer hefyd