Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu bod oddiar y trewydd, rhoddasant eu penderfyniad pendant o "ymlidiwn, goddiweddwn, lladdwn," i fyny yn ddiochenaid.

Dechreuodd Robin ag ymloni bellach:

"Caseg ydyw'r ceffyl yma, dywed?" ebai ef, "ydach ch'i yn caru y'ch dau?"

"O! paid, Gymro anwyl; mi a ddatodaf dy gyffion, ac a'th wnaf yn wr rhydd, os y peidi."

"Ceffyl iawn am fyn'd ydyw hwn," ebai Robin, tan gyrhaedd yspardyniad arall.

"Hoedel, hoedel," ebai'r Sais.

*** Parhaodd y fintai ddysyml Gymreig i gyflymu yn mlaen; ac uwchaf y dringant y rhiw tuag at Benarddlag, rhwyddaf yr anadlent mewn mwy nag un ystyr; ac erbyn iddynt ddyfod i grib y gefnen sydd yn gwarchod y rhan hono o Ddyffryn Alun y saif y Wyddgrug arni rhag deifwynt dwyreiniol, yr oedd y wawrddydd ar ei haden yn tywallt goleuni ar fryn a phant, a'r tywyllwch yn ffoi o'i flaen yn mhellach i'r gorllewin, i gael ei ymlid oddiyno drachefn yn nghwrs yr oriau. Ac felly y parhant o oes i oes, y naill yn ymlid y llall; weithiau goleuni fydd drechaf, weithiau tywyllwch, ond yn dal i ymryson am yr oruchafiaeth yn awr fel y funud gyntaf y neidiodd goleuni allan o'r gorchymyn, "Bydded goleuni.' A chyffelyb ydyw yn y byd moesol, cyfnodau o gaddug dudew, a chyfnodau o oleuni llachar y naill yn dilyn y llall.

*** "Er mwyn y Gwr sydd uwchben, aros, Gymro," ebai'r marchogwr yn ei annghaffael flin, "neu ni laddwn y ceffyl."