Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XI.

CYSGWCH a gorphwyswch, chwi ddeiliaid lludded a blinder. Reinhallt, a chusanau ei ddwy chwaer yn wlybion ar ei ruddiau; Glyn Cothi yn yr hûn hyfryd hono na fwynheir ond unwaith neu ddwy mewn oes—ymwybyddiaeth yn nghwsg fod yr ewyllys wedi ei llawn foddloni; Goronwy ab Gredifel, a Morfudd mewn breuddwyd yn angel gwarcheidiol uwchben ei wely; Robin yn ysgafn gythryblus, a'i feddwl heb lwyr ostegu ar ol y tymhestloedd y bu ynddynt; yr eneth amddifad wirion, ond nid yn swn curiadau ac yn ngwres mynwes yr hon a'i hymddug; y fam sydd yn cysgu'n llonyddach nag erioed ar yr ystyllen lle y dodwyd hi yn barchus gan y teulu lletygar yr ymlusgodd at eu rhiniog i farw; Cadi Gyfarwydd yn y twll y bwriwyd hi yn ddiystyrllyd iddo a mwy o archollion ar ei chorph nag oedd yn angenrheidiol i gymeryd y bywyd o hono. Cysgodd Robert Brown a Dic Alis y tro hwnw, fel llawer tro o'i flaen, gan annghofio dyweyd eu pader. Cauodd natur amrantau goroeswyr y gad hono yn unol a'i hanmhleidgarwch arferol, ac arnynt hwy yr oedd y bai os nad oedd eu cwsg un ac oll mor esmwyth a "hûn potes maip."

Cyrhaeddodd yr haul awr anterth, ac yr oedd y nifer luosocaf o drigolion y Twr yn aros yn dawel yn nyblygion gwisg y duw swrth; cynosfwyd a fu boreufwyd amryw o honynt iddynt y diwrnod hwnw. Ond yr oedd gwyliadwriaeth ddyfal yn cael ei chadw'n ddidòr rhag y deuai'r gelyn fel panther yn sydyn am eu penau. Gwyddent na