hepiai dialgarwch gwyr Caer ond ychydig, ac nad oedd i'w ddisgwyl oddiwrth eu trugaredd penaf ond creulondeb.
Nid oes sicrwydd pa un a ddarfu i Lewis ganu cywydd neu awdl foliant i Reinhallt am ei wrhydri gwladgar yn troseddu un o'r cyfreithiau gwrthunaf a roddes un genedl erioed ar war y llall, na'r hunanymwadiad arwrol a adfeddianodd iddo ef ei drysorau. Digon tebyg i folawd o'r fath gael ei chyfansoddi,[1] canys yr oedd "moli" boneddigion am y peth lleiaf yn un o neillduolion beirdd y Canol Oesoedd, a Glyn Cothi yn arbenig yn eu plith. Pa fodd bynag, nid oes ar gof a chadw gyfryw folawd yn mhlith gorchestwaith y bardd a arbedwyd yn yr oes ddiweddaf rhag ebargofiant gan y ddau lenor hyglod (Tegid a G. Mechain) y parablir eu henwau 'n serchus tra bo "Cymru a Chymro'n bod." Y mae terfynau rhamant yn caniatau i ni ddychymygu fod ei ddiolchgarwch yn frwdfrydig, a'i ganmoliaeth o ddoethineb cynllun yr ymgyrch, dewrder dihafal ei weithiad allan, yn nghyda 'i lawenydd gwynfydus yn y llwyddiant a'i dilynodd, yn farddoniaeth yn wir. Er mai ffoadur oedd Lewis yn Ngwynedd, yr oedd yn foneddwr o waed ac o ddygiad i fyny, ac wedi gwasanaethu peth amser yn y fyddin; a thrwy hyny, efallai na fynai efe fod dim arwedd fydol ar ei fawl. Y mae yn syndod hefyd gymaint yw siomedigaeth y lluaws yn gyffredin wrth weled
- ↑ Dywedir yn ngwaith L. G. Cothi fod yn mysg Llawysgrifau Porking (Brogyntyn yn awr) gywydd anmherffaith yn dechreu "Wyr Einion a'i ffon ffynied y Saison," baich yr hon ydyw diolch i Reinhallt am ei wrhydri.