bardd enwog y tro cyntaf. Canant mor nefolaidd nes y tybiai dyeithriaid eu bod yn rhai o fodau gogoneddus cylch y gwynfyd; ond pan y gwelir hwynt, nid oes gan yr edrychydd siomedig ond penderfynu mai dal angel a wnaethant, a dwyn oddiarno hyny o ganeuon oedd ganddo yn ei gôd. Wrth wrando eos yn telori yn y goedwig gudd, gellid meddwl ei bod wedi ei haddurno â harddwisg wychaf adar paradwys; nid yw hithau wed'yn ond y ddysymlaf o ehediaid y nefoedd. Rhanodd Natur ei rhoddion yn lled gyfartal-rhoddes eurbais i un, ac eurbig i'r llall. Ac onid yw y byd adarol yn ddarlun o'r gymdeithas ddynol? Talodd Lewis ddiolchgarwch gwresog i'w gymwynasydd, anrhegodd ef â chofged neu ddwy, y rhai a dderbyniodd y milwr ieuanc trwy daerineb; ac yn ystod y dydd, ymadawodd, ac ni welodd y ddau wynebau eu gilydd mwyach.
Yr oedd Robin yn llawn trwst a miri hefo 'r plentyn a gafodd, ys dywedai, ar lawr," yr hwn a hawliai efe fel ei eiddo ei hun. Gwadai Morfudd a Gwenllian ei hawl, a cheryddent Robin am siarad am fod dynol prydferth a dyddorol felly, fel pe na buasai ond darn o arian bath. A chan droi oddiwrth wyneb hawddgar y plentyn at wedd welw y fam farw, wylodd y rhianod fel plant. Nid oedd Reinhallt am yspaid yn gwybod dim am y newydd-ddyfodiaid hyn, eithr ar ol ymadawiad Glyn Cothi, a dyfod o hono yn ddamweiniol i'r fan, a chael ei chwiorydd yn wylo a Robin hyd yn nod yn edrych yn brudd, mynodd wybod yr holl hanes; ac wedi deall y cwbl, a chan edrych ar y marw, sychodd yntau ddagrau breision a neidiasent yn frwd o ffynonell ddofn ei gydymdeimlad.