Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Archodd fod i'r corph gael ei gladdu'n barchus, a chymherth y plentyn yn ddeheuig yn ei freichiau cedyrn gan ei hanwesu, fel pe buasai magu yn un o gymhwysderau uwchaf ei natur.

"A thi a'i cefaist mewn ffos yn y Morfa, Bondigrybwyll, ai do?"

"Ar fin y ffos," ebai Robin, "Duw a'i cadwo! welaist ti erioed blentyn tlysach?"

"Y mae natur bob amser, os sylwaist ti, Bondigrybwyll, yn llunio plant amddifaid yn harddach na phlant eraill, fel yr enillont serch estroniaid."

"Go lew ti, hefyd, Reinhallt," ebai Robin, "gan gofio, plentyn amddifad wyt tithau hefyd, fy arglwydd Reinhallt. 'Does ryfedd eich bod chwi i gyd fel teulu mor dlysion yn Mroncoed yma! 'Does ryfedd fod bechgyn y Rhosyn Gwyn mor serchglwyfus at rai o chwiorydd gwyr y Rhosyn Coch!"

"At ba beth yr wyt ti 'n anelu, Robin?"

"Bondigrybwyll, nid i wneyd na chludo chwedlau y dois i i'r byd yma."

"Dy brif neges yn y byd, hyd y gallaf fi ddeall," ebe Reinhallt, "ydyw gwasanaethu arnaf fi, a d'weyd yr holl wir a wyddost yn ddihoced ac yn ddibetrus."

"Reinhallt, paid a digio; nid wyf yn gwadu dy hawl arnaf fel deiliad[1] a anwyd ac a fagwyd ar dir dy dadau. Ond gwna gymwynas âg un o dy ddeiliaid ffyddlonaf-paid a'm holi ar bethau

  1. Deilied (a villain). Yr oedd boneddigion yn yr oes hono yn perchen deiliaid-math o gaethion tan yr hen Feudal System.