Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol yn yr ysgrepan, a thaflai hono 'n ddibris draws ei ysgwydd, cauai ei ddyrnau, cerddai yn drwm gan ddyrnu ei draed yn y llawr, fflachiai tan o'i lygaid, a siaradai rhyw ddryll ymadroddion ag ef ei hun:

Gymru dlawd, anffodus," ebai ef, "a rwygir gan ei phlant ei hun, ac a ddyfethir gan eillion anwar! 'Pryf Germania' y galwai Myrddin Ddewin y Saeson mileinig;-llygod ffreinig gwrthun, llyffaint dafadenog, a nadrodd gwenwyrig, ydyw pob un sydd yn parablu eu bastarddiaith garpiog. Mall a melldith arnynt oll o gryd i fedd! Ac fel y mae graddau yn mhlith ellyllon gwae, onid oes raddau cyffelyb yn mhlith yr ellyllon hyn? Gwyr Caerlleon ydynt y genfaint waethaf o'r holl genedl anhymig hon. P'odd y tyfodd lili mor brydferth a Doli ar domen mor halog? Pa blaened flin a'm dodes inaü yn nghylch swynlath ei serch. Ac eto dieifl coll a gwae a gosbasent ddyn am briodi ei gariadferch. Gwaeau a phläau a'u hysgubo! Ab Gruffydd gadarn. Y Gaer grach a'i gwyr a gryn.'"

Wrth ymdaith fel hyn o lech i lwyn, daeth yn nos arno, a chododd lloer garedig i ddangos iddo ei lwybr—heibio twmpathau eithin a llwyni grug a orchuddient yn yr oes hono y tir gwyllt y rhodiai drosto; ond parhau yr oedd efe o hyd i ymgolli mewn myfyrdod, i chwerthin yn ddiarwybod, i ysgrifenu ar y llipryn memrwn a'i ddodi yn ol yn y cwdyn lledr, ac ymollwng drachefn i raffu tafod drwg. Ond yn sydyn, dyma ddyn yn ei gyfarfod—dyn bychan sionc—cyfarchasant well i'w gilydd, a da oedd gan y naill a'r llall mai Cymro a gyfarchai Gymro. Meiddiodd yr ymdeithydd Cyntaf ofyn i'r ail am y pellder i Dwr Broncoed.