carwriaethol, canys yr hwn a gludo chwedlau serch, sydd yn cludo tân poeth, a'i llysg, oni fyddo yn dra diesgeulus. O'r ddwy, buasai yn well genyf gludo eiddo'r prydydd trwy heolydd Caer gefn dydd goleu na dwyn "
"Na falia," ebai Reinhallt, gan siarad ar ei draws, effaith meddwl pryderus, "ydyw'r gwylwyr yn gwneyd eu gwaith? Enyd fer y cwsg digofaint dig. Rhaid gwylio fel y gwylir ffau bleiddiaid a gollasant eu cenawon. Wrth gofio, Robin, beth a ddaeth o'th garcharor? Wyt ti yn meddwl mai rhyw domen i hel pob ysgarthion iddi ydyw'r Twr yma? Ti a'i gollyngaist yn rhydd yn ol fy nghyfarwyddyd?"
"Bondigrybwyll, y marchog trwstan? Mi a'i gollyngais fel y gollwng adarwr ehediad diwerth. A'm llaw dangosais Gaer iddo, ac a'm troed rhoddais iddo gychwyn da tuag ati."
PENOD XII.
"FFAIR yn y Wyddgrug yfory; ac y mae'r Cymry yn rhai cethin am ffeirio. Hwy a ffeiriant bobpeth—o bluen gwydd i aden archangel," chwarddodd Brown am ben sioncrwydd ei ddarfelydd; "bydd yno luaws mawr o wladwyr cribddeilgar yn ffeirio eu ceffylau celyd, eu hychain duon, a'u defaid mynydd, y cwbl yn bur fychain ond yn bur dda. Cyfleustra rhagorol i dalu'r pwyth yn ol i'r cnafon lladronllyd, canys nid yw trinwyr tir fawr o ymladdwyr. Ysgubo'r ffair o