Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobpeth, a chael rhai o anifeiliaid yr arch-leidr yn eu plith a fyddai'n iawn; gwnai hyny ychydig i fyny am y golled a gefais hefo celfi 'r prydydd gwirionffol hwnw a feddyliai fod ei garwriaeth ef i fod uwchlaw pob deddf. Ac nid oes wybod na fyddai rhuthr sydyn o'r fath yn foddion i faglu Reinhallt yn ei rwydi."

Fel yna yr ymgomiai Robert Brown, cyn-faer Caerlleon, ar wastad ei gefn yn ei wely wedi deffro o'i gwsg ar ol yr ysgarmes y daeth efe o honi yn llai na gorchfygwr. Galwodd gyda'r Maer, Richard Rainford wrth ei enw, gan hysbysu ei gynllun iddo ac atolygu ei gymhorth. Yn awr, er mor aruchel ac ardderchog ydyw'r swydd o faer, cafwyd aml i brawf nad yw y sawl a'i llanwant ond dynol-yn agored i wendidau fel dynion eraill. Eiddigedd sydd demtasiwn gref i lawer o honynt, yn enwedig tuag at eu blaenoriaid neu eu holafiaid yn y swydd, ac nid oedd Brown a Rainford yn eithriaid. Rhy flaenllaw ydoedd Brown gan Rainford, a rhy ddof ydoedd Rainford gan Brown. Yr oedd y ddau yn eithaf cnafon yn eu ffordd—rhusedd rhyfygus a hynodai Brown, rhagrith taeog a nodweddai Rainford. Yr oedd hawliau dinaswyr Seisnig ar gyffiniau Cymru yn yr oes hono, yn arbenig, yn eang a phenryod neillduol; ac yn marn Rainford yr oedd Brown yn dueddol i wneyd rhy fynych ddefnydd o'r cyfryw freiniau. O ganlyniad, nid oedd y Maer yn haner boddlon ar gynllun y Cyn-faer. Awgrymai ai nid gwell fuasai ymosod ar gastell Reinhallt ab Gruffydd, gan mai Reinhallt a'i wyr a bechasent.

"Os cosbir y diniwaid," ebai ef gyda llawer mwy o reswm nag o ddilysrwydd, "gwneir gelyn-