Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion o bobl sydd yn awr yn anmhleidiol yn y ffrae ffyrnig rhyngot a'r Cymro ymladdgar hwn."

Meiddiodd Brown fytheirio anathema chwilboeth ar syniadau mor henwrageddol; ac yn ddifloesgni dywedodd os nad oedd Maer Caerlleon yn feddianol ar ddigon o eiddigedd tros anrhydedd y ddinas, y cymerai ef y peth yn ei law ei hun. "A phe gallwn ysgubo oddiar wyneb daear yr holl genfaint sydd yn siarad ac yn meddwl yn Nghymraeg, mi a roddwn fy ysgub i lawr yn ddedwydd, ac a fyddwn farw yn ei hymyl."

"Mi deimlwn inau yn ddedwydd wrth ei phlanu yn gofgolofn ar dy fedd," ebai Rainford, yn goeglyd.

"Lladron a llofruddion ydynt bob copa walltog," ebai Brown.

"Y maent wedi cymeryd eu dysg yn dda," ebai'r Maer, "gan eu cymydogion agosaf."

Yr oedd llestr Brown bellach yn llawn; aeth ymaith tan ddywedyd, "Nid yw'r gwr yna gyfaill i mi," a dyna un o'r gwirioneddau olaf a ddywedodd.

Cryfhaodd gomeddiad trahaus y Maer benderfyniad Brown i ddodi ei gynllun dialgar mewn gweithrediad. Galwodd i'w gyfrinach ysprydoedd gwrthnysig y ddinas, a dadblygodd ei ddichell ger eu bronau. Yr oeddynt i logi tua chant o wyr —gwyddent hwy o ba rywogaeth—dibris, ymladdgar, tebyca' fedrent gael i Richard Ayles (ein hen ffrynd Dic Alis). Gyda llaw, ofnai yn fawr, nis gallai'r rhychor hwnw ddyfod i'w canlyn oherwydd ei ben ysig. Yr oedd cnwd toreithiog o chwyn dynol—yn wir y mae cnwd da bob amser