o honynt—a chafwyd yn bur ddidrafferth y nifer gofynol. Yr oeddynt yn fintai y buasai ellyll yn falch o'u harwain i frwydr. Parodd Brown iddynt wneyd eu goreu i atal pob porthmon rhag myned i ffair y Wyddgrug trwy deg neu drais, a chymeryd oddiarnynt eu ceitleni (smock frocks), hyn eto trwy deg neu drais. Ac o ba nifer bynag o geitleni y byddent yn fyr yn y diwedd i ddilladu 'r can'wr, gorchymynwyd iddynt brynu'r gweddill yn maelfeydd y ddinas. Yr oeddynt i'w hysbysu ef yn y cyfnos pa lwyddiant a ddilynasai yr amcan; a gorchymynodd iddynt oll fod yn barod wrth y porth gorllewinol am bump o'r gloch boreu dranoeth,
Pump o'r gloch boreu dranoeth a ddaeth; a phe buasai yn ddigon goleu, cawsid gweled y cynulliad hynotaf a digrifaf yr agorwyd llygad arno erioed. Yr oedd pedleriaid, eurychod, hapchwareuwyr a charnlladron Caer yno yn lled gryno, ac ambell i filwr heblaw hyny, a'r oll wedi eu trawsffurfio gan eu gwisg yn borthmyn. Gwisgai pob un geitlen wedi ei brodio yn anghelfydd, a'i hollti yn y blaen ar ei hyd, ac mewn chwa o wynt, yr oedd y ddwy ran yn ymagor allan, fel dwy aden, a barai i'r gwisgwr ymddangos fel rhyw aderyn mawr dychrynedig. Buasai gweled Wil y Clocsiwr a Simon yr Eurych wedi eu gweddnewid yn brynwyr a gyrwyr da byw yn taro dyn yn chwithig. Yr oeddynt o bob maint, llun, ac oedran; ac yn annhebyg iawn i'w gilydd ond mewn un pethnod y bwystfil yn amlwg ar eu hwynebau. Y cynfaer Brown, fel y gellid tybio, oedd pen cyfaddas y genfaint ansyber; ac wedi ychydig o barotoadau ffwdanus, tynghedodd hwynt i yspeilio pobpeth