Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

symudadwy, ac i ymladd fel cythreuliaid os byddai rhywun mor ryfygus a'u gwrthwynebu; "a chofiwch," ebai ef, "mai bleiddiaid ydyw'r Cymry, mamau bleiddiaid ydyw'r merched, a chenawon bleiddiaid ydyw'r plant. Dyfethwch hwynt oll os daw hi i hyny. Y maent yn eich llwyr gasau chwi; ac os na leddwch chwi hwynt, ni raid gofalu fawr na laddant hwy chwi. Yn awr, fy ngwyr dewrion, awn yn mlaen i ogoniant ac anfarwoldeb."

"Gogoniant ac anfarwoldeb! yn mh'le mae 'r manau hyny, dywed," gofynai rhyw bedler i Ddic Alis.

"Dwy hafod ydynt," ebai Dic, "rhwng Rhydymwyn a Rhosesmawr."

Fel y gwelir, yr oedd Dic wedi hybu digon i gymeryd rhan yn yr ymgyrch.

PENOD XIII.

"By be sy' ar y fuwch, deydwch? Seren, sa'n llonydd; ni weles i 'rioed siwn beth a'r fuwch yma; mi brocith bob Sais ddaw'n agos ati;" ebai hen ffarmwr gwledig o Gilcen (Gredifel wrth ei enw.) Cilcen, ys dywedir ar lafar cyffredin gwlad, ydyw un o'r manau diweddaf a grewyd. Ond y mae yn bentref bychan digon propor ar ol unwaith myn'd iddo;-yn sefyll ar lechwedd heulog tan gysgod Moel Fama. Yr oedd ffarmwyr y lle hyd yn ddiweddar yn mhell ar ol yn mhobpeth ond cryfder gewynol, a'u gwartheg yn mhlith y rhai manaf yn sir Fflint. Er fod yr hen ffarmwr hwn yn gosod Sais yn mysg un o gasbethau ei fuwch, y mae yn lled amheus a welsai