Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Seren" Sais erioed cyn y diwrnod hwnw. Mae yn wir mai Sais y galwai ein cydwladwyr yn yr oes hono bob crwydryn annheilyngach na chyffredin, fel y galwai plant yr oes ddiweddaf ei chrwydriaid hithau yn Wyddelod.

Dic Alis oedd gwrthddrych dygasedd "Seren;" anelodd ei chorn yn union at orsedd ei fywyd; ond bu Dic yn ddigon sionc i symud ei hunan a'r orsedd oddiar ffordd y corn. Ac wedi cael ei hun i fan ddyogel, gofynodd mewn Saesneg clapiog, gan gymysgu cymaint o Gymraeg âg ef, ag a allasai hebgor o'r ychydig a bigasai i fynu yn Nghaerlleon, beth oedd ei phris?

"Gini," ebai'r amaethwr, "ac nid oes ar balmant Wyddgrug heddyw amgenach buwch am laetha na "Seren." Mae hi yn bur chwareus weithiau, wel tase," a chodod gwrid i wyneb y Cymro.

Yr oedd Dic yn coleddu syniadau gwahanol am chwareu i'r eiddo pobl Cilcen; ond ni ddywedodd ddim ar y pwngc; aeth ymaith gan fwngial fod y pris yn rhy uchel.

Daeth lluaws o ddynion o'r un ddelw a'r porthmon diweddaf heibio; ond o hyny allan, gofalai'r ffarmwr am eu rhybuddio i gymeryd yr heol gefn i "Seren," rhag y digwyddai damwain. Dechreuai'r ffarmwyr un ac oll ryfeddu at amlder y porthmyn yn y ffair—yr oedd yno bron gynifer o brynwyr ag o anifeiliaid. Nid oeddynt ychwaith yn prynu dim; ni fu erioed ffair yn y Wyddgrug ag ynddi lai o brynu—cerdded oddeutu a wnai'r porthmyn, holi'r prisiau, a gwneud amneidiau dyrys ar eu gilydd yn awr ac eilwaith nad oedd undyn ond hwynt-hwy eu hunain yn eu deall. Yr oedd eu hymddygiad yn peri penbleth.