Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XIV.

GWAWRIODD yr ail ddiwrnod, ac nid oedd argoel dialgarwch ar lun byddin yn dyfod o Gaer yn nghyfeiriad y Wyddgrug, er fod gan Reinhallt ddynion yn cadw y wyliadwriaeth ddyfalaf ddydd a nos. Er hyny, nid oedd anmheuaeth yn meddyliau pobl y Twr, nad crynhoi yr ydoedd, ac mai trymaf oll a fyddai pan y delai. Yr oedd amlder a lluosogrwydd y minteioedd porthmyn a gyrchent i'r ffair, a'r oll yn dyfod yn uniongyrchol o Gaer, yn beth digon rhyfedd, er na chymerasai neb sylw o'r peth oddieithr Bondigrybwyll. Ni ddiangai yr un amgylchiad na digwyddiad ei sylw treiddgar ef. Chwiliai a difynai bobpeth i'w ansoddion; a chyda'r hyn a elwir drwgdybiaeth sydd mor naturiol i feddyliau o'r fath, lluniai a dyfalai ddamcanion a ddeuent yn lled fynych i ben. Cadwodd gyfrinach ei feddwl iddo ei hun, heb yngan gair hyd yn nod wrth ei feistr, er i'n harwr sylwi fod tu fewn Robin yn faes rhyw ymryson annghyffredin, ac iddo ofyn am y rheswm. Cadwai ei gyfrinach hyd oni ddadblygid rhyw amgylchiad a wnelai ei ddyfalion yn sicrach. Tua deg o'r gloch, aeth am dro gan belled a'r dref, a rhodiai yn hamddenol ar hyd yr heolydd, er mwyn gweled y porthmyn wyneb yn wyneb. Taflai gipedrychiad diofal arnynt, a deallodd yn fuan nad oeddynt yn fynychwyr ffeiriau Gwyddgrug, ac anmheuai os oeddynt yn borthmyn o gwbl. Meddyliai ei fod wedi gweled rhai o honynt o'r blaen mewn lle ac mewn cymeriad arall. Adwaenodd Ddic Alis yn y fan; ac efe yn llechwraidd ddireidus a roddes bigiad i "Seren" yn ei pharth gorllewinol a barodd iddi ruthro mor anesboniadwy (i'w pherchenog) yn