mlaen, nes y bu agos i'w chyrn ymgyfarchwel â chalon y Sais. Wrth gwrs, cerddodd Robin i ffwrdd yn gwbl ddidaro. Cafodd gipolwg hefyd ar Robert Brown yn un pathew boliog, trwyngoch, a'i lygaid trythyll ar neidio o'i ben gan lidiowgrwydd, a'i ddanedd yn crensian, a'i wefusau halog yn myn'd ac yn myn'd fel pe buasai mewn rhyw ymgom bwysig âg ef ei hun. Yr oedd yntau wedi ymwisgo yn niwyg porthmon, a rholyn o borthmon rhyfedd ydoedd. Gwelai un arall hefyd a adwaenai yn dda-amnaid siriol oedd yr unig foesgyfarchiad a gymerth le rhyngddynt; deallent eu gilydd.
Robin yn gweled a welai, ni bu ymarhous yn dychwelyd adref.
"Reinhallt!" ebai ef, "paid colli eiliad o amser; mae'r dieiflgwn ar ein gwarthaf. Mae Gwyddgrug yn llawn o honynt."
Yna datguddiodd i'w arglwydd yr ystryw borthmonol, a thraethodd ar fyr eiriau ei farn mai dyfais ddieflig ydoedd i yspeilio a lladd.
Udganwyd corn y gad yn isel ond treiddiol, ac mewn ufudd-dod i'w sain, daeth y gwyr yn ebrwydd yn nghyd i'r buarth. Yr oedd y rhianod, fel y gallesid meddwl, yn fyw o ddyddordeb am wybod gan Robin pa beth oedd yn bod; ac yntau mor ryfeddol o brysur gyda'r darpariadau, fel mai ychydig o reswm a allai roddi iddynt, a hyny mewn brawddegau drylliog. Sisialodd rywbeth am Goronwy yn nghlust Morfudd; ond ni ddeallodd hi ond ei fod ef yn y ffair yn ngwisg porthmon; a tharanai Reinhallt yn ddigon ffyrnig mewn cwr arall mai gelyn, lleidr, a llofrudd, pob porthmon oedd yn y Wyddgrug y bore hwnw. Parodd hyn i'w