Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chalon guro'n gyflymach nag o'r blaen. Yr oedd Gwenllian yn arafaidd fel arferol, ac yn meddianu ei hun yn dda, er nad yn anystyriol o'r perygl. Ffwdanai Sion fel un ar ddarfod am dano;—y mae yn syndod fod natur tra yn llunio teuluoedd o ran pryd a gwedd yn dra thebyg i'w gilydd, yn ffurfio eu meddyliai mor dra annhebyg y naill i'r llall.

Mewn byr amser, yr oedd gwyr Broncoed tan arfau, ac yn barod i'r ymgyrch; a rhagdrefniadau y cadlywydd hefyd yn gyflawn. Parodd i'r Cadben Ifan gymeryd ugain o wyr a myned yn gwmpasog ar hyd godreu Gwern y Mynydd i Faes y Dref, a thrwy hyny gallai gael cefn y gelynion tra byddai ef a'i wyr yn ymosod arnynt yn eu hwyneb. Cadben Ifan a'i wyr a wnaethant yn ol y gorchymyn, ac a gyrhaeddasant Faes y Dref yn iach ddiangol. Ymdeithiodd Reinhallt a'i gatrawd yn arafaidd modd y cai yr adran arall amser i gyrhaedd eu cyrchfa yn brydlawn.

Dyn yn dyfeisio yn erbyn dyn ydoedd. Ni ddaethai gwyr Caer oddicartref i segura, a dechreuasant ar eu hanfadwaith o ddifrif wedi dwyn eu cynlluniau dipyn i ben. Lledasant eu hunain allan fel rhwyd, modd y gallent ysgubo pobpeth yn llwyr o'u blaenau.

Ac erbyn i Reinhallt gyrhaedd y dref, yr oedd y lladron wedi ymdaith tua chwarter milltir allan ohoni, hyd at Bont Arwyl, pentref bychan a dynwyd mewn rhan i lawr er mwyn cael lle i adeiladu gorsaf y reilffordd arno, a'r lle y ganwyd y bardd coeth a melusber Blackwell (Alun), man genedigol yr hwn, fel y mae goreu, sydd yn mhlith yr ychydig dai a arbedwyd.