Parodd y ffaith fod y Caerwyson wedi cyrhaedd allan o'r drefn dipyn o ddyryswch yn rhag-gynlluniau Reinhallt, gan mai yno y darparasai efe at eu cyfarfod. Modd bynag, nid oedd ond gwneyd y goreu o'r amgylchiadau. Archodd ymlid ar eu holau, a gyru gair at fintai Maes y Dref i brysuro yn mlaen. Yr oedd yno gynhwrf a dychryn mawr fel y gallesid disgwyl, yn yr heolydd tra yr elai'r fyddin ymlidiol trwyddynt. Gwelid dau neu dri o gyrph meirw, ac yr oedd yn hawdd gwybod pwy a'u lladdes. Ond nid oedd hamdden i ymholi dim. Cerddediad trwm y gwyr arfog hyn i frwydr a foddai ochenaid wan y trueiniaid ar fin trengu. Goddiweddwyd y gelynion cyn iddynt gyrhaedd Bryn Ellyllon, ac ar y rhiw hwnw aeth yn frwydr waedlyd mewn eiliad. Trodd y Saeson ar eu sawdl i dderbyn eu hymlidwyr; a dygasant allan arfau a fuasai yn nghêl hyd yn hyn tan y wisg borthmonol. Ni bu y Cymry erioed mewn gwell tymher ymladd, canys yr oedd eu hachos yn dda; ac o'r tu arall, ni welwyd porthmyn erioed yn ymladd cystal, canys milwyr profiadol ydoedd amrai o honynt, a godreuon chwerwon cymdeithas oedd y gweddill. A thra yroedd y creaduriaid direswm yn defnyddio eu seibiant i bigo y glaswellt oddiar ochr y clawdd, syrthiai y creaduriaid "rhesymol" ar eu gilydd fel gwaedgwn. Brwydr ymdrechol, boeth, hirfaith, ydoedd, canys yr oedd o Saeson yn erbyn y Cymry ddau yn mhen un. Lladdwyd Dic Alis yn yr ymdrech gyntaf gan ergyd câdfwyall. Yr oedd yn ceisio tori trwy renciau'r Cymry, fel y gallai dalu pwyth culfa Caer i Reinhallt, a than falu poer cynddaredd yn pwyo ac yn dyrnodio pawb oedd ar ei ffordd yn arswydus. O'r diwedd, cyfarfu â'i feistr;
Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/69
Gwedd