bachgen o Gilcen o'r enw Goronwy ab Gredifel, nad oedd gwyr Reinhallt yn ei adnabod ond oherwydd ei weled, a redodd yn mlaen oddiwrth Robin o gae gerllaw lle y safai'r ddau yn gwylio'r ymdrafod,—llencyn cadarn cyhyrog, —rhedodd yn mlaen, a tharawodd Dic Alis yn ei benglog nes ei hollti'n ddau, fel yr hyllt cigydd ben molltyn. Ocheneidiodd ei anadl olaf ar aden rheg; ac yno ar ochr y ffordd y gadawyd ei gelain fawr farw gan ei gyfeillion yn niwedd y frwydr.
Am yspaid cadwai Robert Brown yn y dirgel, fel un na fynai i neb wybod ei fod yno; ond wrth ganfod ei wyr yn cwympo o'i ddeutu, ac yn enwedig Dic Alis, daeth yn bwys arno i ddewis un o ddau lwybr—naill ai ffoi, yr hyn a fuasai yn wir warthus; neu ddyfod i'r gwyneb a thrwy air a gweithred anog ei wyr i adnewyddiad egni a phybyrwch. Dewisodd yr olaf, gan ruthro yn mlaen, ac atolygu ar i'w ddynion ei ddilyn.
"Dacw ellyll ieuancy Twr," ebai ef, gan unioni at ein harwr; "lladdwn ef; dacw'r lleidr pen ffordd a yspeiliodd fy nhŷ, holltaf ei ben fel yr holltwyd pen Richard Ayles druan. Darniwch a rhwygwch ef yn ddarnau!"
"Gadewch iddo ddyfod," ebe Reinhallt, "na rwystrwch ef; nid oes arnaf rithyn o'i ofn."
Agorodd y Cymry adwy, fel y caffai Robert Brown ei ewyllys. Rhoddes y ddau arweinydd eu hunain mewn trefn i frwydr lawlaw; bu ysgarmes rhyngddynt, ond ni pharhaodd ond ychydig; diarfogwyd y Cynfaer; a Reinhallt a'i gwnaeth yn garcharor. Ar hyn trodd gwyr Caer eu gwegil. Ffoisant, ambell un yn sionc ac ysgafndroed, eraill