yn gyndyn a hwyrdrwm; canys nid yw troi gwegil mewn câd yn anianawd y Sais. Diangodd y rhai blaenaf trwy nerth eu traed; ymlidiwyd a goddiweddwyd y lleill, ac amryw o honynt a syrthiasant trwy fin y cleddyf.
Dychwelodd Reinhallt a'i wyr i'r dref yn fuddugoliaethus; a'r anifeiliaid yspeiliedig ganddynt, y rhai, prin y rhaid hysbysu, a roddwyd yn ol i'w gwahanol berchenogion. Ni bu y fath oraian a llawenydd yn y Wyddgrug er dyddiau Garmon a Lupus, pan y dyrwygid ei hawyr gan y floedd orfoleddus "Aleliwia." Cyhwfenid banerau, cenid clychau, ac yr oedd crechwen a chân yn diaspedain trwy'r lle. Yr unig gwmwl ar y sirioldeb ydoedd y meirw diniwaid, yn enwedig y rhai a laddwyd mor greulon a diachos yn y ffair. Yn mysg y rhai hyn yr oedd Gredifel, yr hen wladwr o Gilcen, perchenog "Seren," a Dic Alis a'i trywanodd, a chan dynu ei gleddyf yn wlyb gan waed o fynwes Gredifel, planodd hi yn nesaf yn ystlys y fuwch ddiniwaid. Yr oedd Goronwy ab Gredifel yn llygad—dyst o hyn, a thyngodd y mynai ddial gwaed ei dad. Llethodd ei dymher ar y pryd rhag neidio ar y llofrudd yn y fan; gan fod yn sicr yn ei feddwl na byddai raid iddo ddisgwyl yn hir am ei gyfleu. Felly Goronwy a ddisgwyliodd am ei gyfleu ac a'i cafodd.
Cludwyd Reinhallt yn fuddugoliaethus ar ysgwyddau dynion cryfion trwy brif heolydd y dref yn nghanol llawenydd diderfyn; a gosgorddwyd ef yr holl ffordd i'r Twr yn sain y bloeddiadau mwyaf gorfoleddus. Yr oedd Gwyddgrug ar i fyny'r diwrnod hwnw. Reinhallt oedd eulun y dydd; ond yr oedd yno eraill a fwynhaent ran o'r mawl