Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r anrhydedd; nid amgen Goronwy ab Gredifel a Robert Tudur (Bondigrybwyll). Perchid Goronwy o herwydd iddo ladd bwystfil y gelyn, fel y lladdes Sant Sior y ddraig, neu y lladdodd Syr John y Bodiau o Leweni y bych. Wrth ganfod ei fedr a'i eondra, ac ystyried y gwasanaeth pwysig a gyflawnodd i'w achos ef yn Nghaerlleon o'r blaen, ac yn y frwydr y diwrnod hwnw, agorodd dôr serch Reinhallt yn llydan agored i'r llencyn o Gilcen, er ei fod yn gwybod mai un o wyr y Rhosyn Gwyn ydoedd. Rhoes wahoddiad taer a chynes iddo i'r Twr, yr hwn a dderbyniasid yn llawen yn y fan oni buasai fod ganddo ddyledswydd brudd o'i flaen o ofalu am gorph marw ei dad.

"Yr wyf yn atolygu arnat," ebai Reinhallt, "ar ol dy ddiwrnod caled, na wnelot ond gweled dy riant marw; ac na archollot dy deimladau gyda threfniadau ei gludiad adref. Gad hyny i Ifan y cadben. Dyred gyda mi i'r Twr."

Gwelai Goronwy reswm y cynygiad, er fod ei deimladau yn gwingo braidd; ond pan ddaeth y syniad i bwyso arno fod un o ddigwyddiadau dedwyddaf ei fywyd ar gael ei sylweddoli—ymweliad â'r Twr ar wahoddiad ac yn nghymdeithas brawd enwog ei ddyweddi, cydsyniodd gydag ochenaid.

"Twt! paid och'neidio fel yna; mi ofala Ianto fod pobpeth yn iawn; ni cheir y melys heb y chwerw, bondigrybwyll," ebai Robin.

Cerddai Reinhallt a Goronwy fraich yn mraich i fyny'r cae oedd yn arwain at y palas; rhedodd Morfudd yn ol ei harfer dwym i gyfarfod ei brawd, i'w roesawu adref; a rhoddes ei breichiau ar