Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unwaith am yddfau'r ddau, a chusanodd Reinhallt a chusanodd Oronwy. Rhyfeddai ei brawd at eangder ei serch, ond dyma Gwenllian yn mlaen ar hyn, ac yn llongyfarch ei brawd yn ei dull dilys arferol, ac wedy'n yn cyfarch ei gydymaith mewn dull mor gartrefol nes y gofynodd Reinhallt

Ho! chwi a welsoch eich gilydd o'r blaen, felly?"

"Ein tarpar frawd-yn-nghyfraith, Reginald," ebai Gwen, "beth feddyli di o hono? onid yw yn llencyn dewr?"

Pe cawsai Morfudd ei dewis o naill ai taro Gwenllian, ynte suddo o'r golwg i dwll yn y ddaear, buasai yn anhawdd gwybod pa un a wnelsai. Ond gan nad oedd yr un o'r ddau yn ddichonadwy, nid oedd ganddi ond gwrido gymaint fyth ag a fedrai, a sisial rhywbeth am ddigywilydd-dra Gweni, a throi'r stori trwy ddweyd y buasai yn llawer gweddusach ynddi ddyfod a Ionofal fach amddifad yn mlaen i roesawu ei "hewythr" o faes y frwydr. Digon hurt yr edrychai Goronwy hefyd; ac yn wir nid oedd Reinhallt nemawr gwell; ond daeth y faethferch fechan yn mlaen a'i gwên ddiniwaid ar ei genau, ac arwr y dydd a'i cusanodd yn serchus.

Hyn oll ar ddychweliad buddugoliaethus o frwydr. Y mae hynawsedd greddfol natur dda yn nawsio allan yn nghanol y digwyddiadau mwyaf cynhyrfus.