Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XV.

OND beth am y Cyn-faer? Pa fodd yr ymdarawodd y gaethglud?

Wel, cafwyd yr helynt cethinaf yn ei ddwyn i'r Twr. Ni bu erioed mewn gefyn garcharor mwy anystywallt. I ddechreu, ni fynai symud fér o'r fan, a bu raid ei gludo, a baich anhydrin ei wala ydoedd. Ac wedi cyrhaedd y dref, cafwyd gwaith mawr yn ei achub rhag cynddardd y dyrfa, y rhai a fynent ei rwygo yn gareiau. Y mae marwolaeth drwy ddwylaw gwerin ddigofus, a hyny'n gyfiawn, yn un mor anmharchus, fel yr arswyda pob meddwl rhagddi. O bob angau, dyma'r gwarthusaf. Nid oedd Robert Brown yn eithriad i'r rheol. O'u cydmaru â'r dorf gynddeiriog, ystyriai hyd yn nod ei gaethgludwyr yn gyfeillion, ac ymdawelodd a gwasgodd atynt am eu nawdd. Ond pan gyrhaeddasant du allan i'r dref, dychwelodd ei ddrwgdymher yn ffyrnicach nag o'r blaen. Bondigrybwyll a weithredai fel goruchwyliwr y gaethglud; a'r dull a ddefnyddiodd Robert Brown i ad-dalu aml i gymwynas a dderbyniasai oddiar law Robin yn ystod y daith, ydoedd trwy frathu darn o'i fawd ymaith. Yr oedd yn troedio ac yn brathu pawb a ddelai yn agos ato; a diau fod ei gynddeiriogrwydd wedi ei yru yn mhell i dir gwallgofrwydd. Pan gyrhaeddasant y Twr, dodwyd ef yn y ddaeargell lle y cedwid carcharorion—cell dywell laith, gan obeithio y delai ychydig ato ei hun mewn mangre felly. A phan ddeallodd efe fod llaw mor anhyblyg a thynged ei hunan wedi ei dodi arno, ac na lwyddai iddo wingo yn erbyn ei gadwen, trodd ei natur lorf y tu gwrthwyneb allan, a dech-