Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

reuodd ddeisyf a thaer weddio ar Reinhallt am gael rhyddid i weled haul Duw. Toddodd digofaint ein harwr ato ar fyrder pan ddeallai ei fod yn erfyn am un o fendithion haelaf a gwerthfawrocaf y nefoedd; ac archodd ei symud i'r penty gerllaw y palas, adfeilion yr hwn sydd yn aros hyd yn bresenol, lle y gallai anadlu awyr bur a mwynhau goleuni trwy ffenestr wydr, wedi ei delltu â bàrau haiarn. Cludid ei ymborth iddo oddiar fwrdd y parlwr; ac er ei holl anwiredd, ni roddid arno yr anmharch lleiaf ond oedd lwyr angenrheidiol. Yn y cyfnos, dychwelodd llesmair o gynddaredd ato drachefn. Y genedl Gymreig oedd y salaf a'r waethaf tan y nefoedd, ebai ef; a Reinhallt oedd y salaf a'r gwaethaf o'r genedl hono. Lleidr penffordd a dorasai ei dy ef; llofrudd Richard Ayles,—(un o'r bechgyn mwyaf hawddgar anwyd o wraig); llyfrgi gwael, yn ei gadw ef mewn caban felly pan y dylasai fod yn ei balas ei hun yn bwyta ei giniaw ac yn yfed ei win. Yna gofynai yn ostyngedig i un o'r ddau ddyn a'i gwyliai os ai a chenad at ei feistr yn gofyn caniatad i Robert Brown, cyn-faer Caerlleon siarad gair âg ef. Hwnw yn ddigon difeddwl-drwg a gydsyniodd; a chyda ei fod ef o'r golwg neidiodd y carcharor fel panther ar y gwyliwr arall, bwriodd ef i'r llawr trwy sydynrwydd yr ymosodiad, ac yna nafodd ef yn dost â darn o haiarn a gawsai ar lawr ei gaban. Ar ol hyny, rhedodd â'r darn haiarn yn ei law tuag at y tŷ, gan dyngu y lladdai bawb yn y lle. A phwy a chwareuai gerllaw'r drws ond Ionofal fach.

"Geneth ordderch Sian Fflintshire, myn d——l," ebai ef gan na ddarfu dy fam flinderog moth foddi fel y perais iddi, cymer hwnyna i wneud