Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dygwch y cortyn," ebai Reinhallt, "a chrogwch ef wrth y stapl[1] acw yn y nenfwd."

"Beth," ebai Goronwy, "ei grogi yn y parlwr!" "Ie," ebai Reinhallt," bu yn faer Caerlleon Gawr ar Ddyfrdwy unwaith; efe a gaiff farw yn y parlwr—anrhydedd nad yw efe yn bersonol yn ei haeddu."

"Bydd ei ysbryd yn ein terfysgu ddydd a nos yn oes oesoedd," ebai Sion.

"Gresyn," ebai'r ddwy rian, "mae yntau yn frawd i rywun."

"I fynu ag ef," ebai Reinhallt.

Dodwyd y cortyn am ei wddf gyda chryn sicrrwydd gan Robin; a pharodd cyffyrddiad yr offeryn hwnw â'i wddf noeth y fath syched ynddo am fywyd fel y torodd allan i lefain yn uchel am dano.

"Yr hyn a gymeraist ti mor anhaeddianol oddiar eraill, rhaid ei gymeryd yn haeddianol oddiarnat tithau. Trugaredd i dy enaid tlawd annuwiol; bydd raid talu llawer cyn y ceir ei fath o'r purdan. I fyny ag ef."

"Aroswch gael i mi roddi y darn bawd yma yn ei geg," ebai Robin, "fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, 'a'u gweithredoedd i'w canlyn hwynt.'"

"Na lefara gabledd, filain," ebai Goronwy. Ac wedi ei godi i'r uwchder angenrheidiol, ebai Reinhallt, "Gadewch yr adyn yna i farw." Cyflawnwyd y gorchymyn, a gadawyd y diras wrtho ei hunan yno i farw yn ngwyll y cyfnos. Felly y darfu am Robert Brown, a lanwasai unwaith y swydd o faer Caerlleon; ac, a defnyddio

  1. Y mae'r stapl hono yn aros yn nenfwd yr ystafell: a dangosir hi fel yr un y crogwyd arni Gyn-faer Caerlleon.