Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

alegori o eiddo un o efangylwyr Cymreig y ganrif hon, nid oes ond gobeithio "iddo gael trugaredd rhwng y bont a'r afon."

"Dau gorph yn yr un ty," ebai'r hen air. Y fenyw dwylledig yn barchus ar yr ystyllen, ei thwyllwr yn grogedig wrth y nenfwd, a phlentyn yr ymdrafodaeth anghyfreithlawn yn anwylun y teulu. Drych cywir o ddiwedd einioes dau gymeriad o'r fath. Ac onid priodol y mabwysiadwyd yr enw Ionofal, ar gynygiad Bondigrybwyll?

Jane Flintshire, fel y'i gelwid, a gladdwyd mewn pridd cysegredig; a Robert Brown mewn llanerch anghyfanedd. Dymunai rhai o'r milwyr ei ddaearu fel drwgweithredwyr eraill mewn pedair croesffordd; ond ni fynai Reinhallt droseddu ar derfynau angau.

"Yr ydym ni," ebai ef, "wedi ei gospi hyd yr eithaf; poed rhyngddo bellach â'i Dduw."

PENOD XVI.

Yr oedd y braw yn nghylch y rhai y tybiwyd eu bod wedi eu llofruddio yn fwy na'r briw. Adenillodd y gwyliwr ymwybodolrwydd yn lled fuan; ac er fod y lodes fach wedi ei hanafu yn dost, daeth yn raddol ati ei hun. Dangoswyd y tiriondeb penaf tuag atynt, yn enwedig at Ionofal-chwanegodd yr anffawd gwlwm newydd ar linynau serch tuag at y caffaeliad amddifad. Yr oedd yn ymryson yn eu plith pwy a ddangosai fwyaf o serch. Robin a ddywedai y buasai yn well ganddo gael brathu ei fawd arall lawer gwaith nag i'r beth fach anwyl dder-