PENOD II.
SAIF hen balas urddasol y Twr, neu Broncoed fel y gelwid y lle gynt, ar lechwedd heulog yr ochr orllewinol i'r afon Alun, o fewn tua milltir i dref y Wyddgrug, ac un-ar-ddeg o filltiroedd o ddinas Caerlleon Gawr. Os dewiswyd y safle ar y cyntaf gan rhyw foneddwr hamddenol fel hyfrydle i ymfwynhau o'i fewn, dangosodd y cyfryw un chwaeth hapus ac uchelryw, canys fe ddichon nad oes dlysach llecyn ar derfynau Cymru. Amgylchir ef gan goed cauadfrig—temlau cân adar pereidd-sain, a'r eos gynt yn eu plith yn dyhidlo "mêl odlau mawl;" dolydd, a boglynau o flodionos gwylltion yn addurno eu bronau; maesydd cnydfawr o yd pendrwm; a gerddi chwerthiniog; a dim i dori ar dawelwch cynhwynol y fan oddieithr natur benrydd ei hun yn ei gwynt cryf neu ei hawel deneu, yn suad ei gwenyn neu weryriad ei meirch. Ceid yma hefyd olygfeydd ardderchog yn ymestyn bellder o ffordd -rhan helaeth o sir doreithiog Gaerlleon, a'r afon Mersi yn ei chwr pellaf, a'r Ddyfrdwy dderwyddol yn ei chwr agosaf; eglwysi a phinaclau Caerlleon yn dyrchu eu penau i'r awyr las; Mynydd Sychtyn Moel Gaer a Bryn y Beili ar y chwith, a Chaergwrle ar y ddeheu, fel erchwynion i'r nythle tangnefedd hwn. Ac yn union o tano, wele Ystrad Alun, yn parhau yn wyrddlas haf a gauaf fel pe na feiddiai'r ddrycin fénu arno; a'i afon ddysyml yn llifeirio trwy ei ganol, gan ymdroi ar ei thaith i gael cusan arall gan yr amrywiol flodau a blygant at wefus ei dyfroedd; ac yn ymsymud yn ddystaw rhag ofn i rhyw gwmwl digofus eiddigeddu wrthi ac ymollwng am ei phen i'w phrysuro ymaith. Dyn dedwydd yn y fangre ddedwydd hon fuasai y drychfeddwl uwchaf o ddedwyddwch daearol.