Wedi cyrhaedd adref, ail adroddodd Gwenllian ei hofnau. Pan elo pryder i ben menyw, gwaith anhawdd ydyw ei gael oddiyno; bydd ar flaen ei thafod am amser maith. Ymollyngodd Reinhallt i fyfyrio, ac i ymddyddan ar y pwnc osodasid ger bron.
"Mae yn wir," ebai ef, "mai gwell cariad y ci na'i gas, a gwell ci byw na llew marw. Ond," ebai ef gan ymestyn i'w lawn faintioli "gwneyd yr hyn sydd iawn ydyw'r peth, a gadael y canlyniadau i Dduw. Y mae gwg brenin a gwg cardotyn yr un peth i mi. Os na ddiala rhywun gam ein cenedl, fe â ein gwlad yn watwaredd ac yn wawdbeth yr holl genedloedd."
PENOD XVII.
Yr oedd yn anhawdd penderfynu pa un ai chwedl ynte ymddangosiad y sawl o "borthmyn" y Wyddgrug ag a gyrhaeddasant Gaerlleon y prydnawn hwnw oedd y mwyaf truenus. Siaradent yn isel, ac edrychent yn yswil. Y Maer a glybu am aflwyddiant yr ymgyrch, ac a ddanfonodd am rai o'r dychweledigion i'w holi yn nghylch y manylion. Rhoddodd y rhai hyny yr hanes iddo yn wynebdrist a phenisel.
"Chwi a gawsoch yr hyn a haeddasoch," ebai Robert Rainford, "Pa hawl neu pa reswm oedd i rhyw fustachiaid o ddynion fel chwi, heb lywydd medrus nac arfau cymhwys, fyned i geisio tynu ysglyfaeth o safn llew?"
"O! yr oeddym ni cystal ymladdwrs a hwythau," ebai 'r dynion.