"Mab i'r dyn a laddodd yntau yn y ffair," ebai Goronwy. "Yr wyf yn apelio at eich anrhydedd fel boneddwr teg, ar bwy yr oedd y bai? A oedd bai ar Reginald a'r Cymry yn amddiffyn eu hunain?"
"Fel yr wyf yn faer Caerlleon, nis gallaf fi weled arnynt fai. Ac eithaf peth y gwelaf fi gospi Brown; canys terfysgwr ymyrgar ydyw bob amser, yn trythyllu gyda menywod, ac yn cweryla hefo 'i gydryw holl ddyddiau ei einioes. Parodd lawer o anghysur i mi er pan wyf yn faer Caerlleon."
" Y mae pob un o'i fath, eich urddas, yn haeddu ei grogi," ebai Goronwy.
"Ei grogi ddengwaith drosodd," ebai R. Rainford.
"Ac eto am gospi terfysgwr o siopwr fel yna, mae yn dra thebyg y cynhyrfir nef a daear yn erbyn Reginald. Yr wyf yn deall fod pleidwyr Brown eisioes ar waith yn llunio deiseb at Arglwydd Stanley, er ceisio enyn ei ddigllonedd at y Cymry am amddiffyn eu cam."
"Mi a ddyrysaf eu cynllwyn," ebai'r Maer, "yr wyf yn adnabod Syr Thomas yn dda, ac un o'r arglwyddi goreu a gafodd Cyffiniau Cymru er's llawer oes ydyw; danfonaf genad ato yn ddioed fel y gwybyddo'r holl hanes, cyn y gwenwyner ei, feddwl gonest gan hustyngwyr maleisus."
A danfonwyd cenadwri ar frys gwyllt at Arglwydd Stanley, yn mha un y gosodai'r Maer draethiad manwl ac eglur o dreigliad amgylchiadau mewn cysylltiad â'r cythryfwl, ac a ddeisyfai ar i'w arglwyddiaeth chwilio yn bwyllog i'r achos, ac yna na phetrusai ef (y Maer) parth y canlyniadau. Ac er cau genau pob athrodwr, erfyniai ar