Arglwydd y Cyffiniau eiriol yn ddioed fel y caffai'r cyhuddedig bardwn uniongyrchol y brenin.
Cydsyniodd Arglwydd Stanley â chynwysiad y genadwri, canys nid oedd ysbryd gwrthnysig Brown yn anhysbys iddo. Enillwyd ei ffafr ar unwaith; a chyn i gwynion y blaid wrthwynebol ei gyrhaedd, yr oedd gollyngdod Reinhallt am ei holl weithredoedd diweddar wedi ei roddi, a sêl y brenin wrtho.
Ond yr ydym yn rhagflaenu yr hanes.
Fel y gellid meddwl, ymadawodd Goronwy â phalas y Maer yn llawen, oblegyd yr oedd wedi gwneyd gweithred o gyfiawnder â chydwladwr, yr hyn oedd bob amser yn ddymunol i'w natur; a pheth arall, wedi rhoddi cwlwm newydd ar linyn ei garwriaeth. Cadwai bobl y Twr yn hysbys o bob symudiad yn Nghaer; ac er nad oedd y trydan wedi ei ddarganfod yn yr oes hono, yr oedd ganddynt aml i lwybr dirgel a chyflym i ddyweyd eu helyntion wrth eu gilydd.
PENOD XVIII.
NID oedd y blaid elynol yn segur. Tra yn cynllwyn dinystr Reinhallt gydag Arglwydd y Cyffiniau, darparent ryfelawd ar raddau eangach na'r un anffodus ddiweddaf, er gwneyd rhuthr ar gadarnfa y penaeth Cymreig; a chanddynt ddau cant o wyr i'r perwyl hwnw. Nid oedd y Maer na'r awdurdodau dinasig yn eu cydnabod nac yn eu hachlesu y tro hwn ychwaith; ac felly yr oedd yr anturiaeth yn hollol ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Cychwynasant i'w neges yn ngwyll cyfnos tawel o Ebrill 1465, tan lw bob un iddo ei hun na ddychwelai heb gospi'r troseddwr a rhyddhau 'r carch-