aror. Goronwy, yn gwybod am eu holl gynlluniau, a gychwynasai gyda dau neu dri o gyfeillion ffyddlon o filwyr, ar hyd ffordd gwmpasog yn y prydnawn, ac a gyrhaeddasai y Twr cyn bod yr ymosodwyr yn barod i gychwyn o Gaer. Yn un o'r pethau cyntaf, penderfynwyd symud y merched at gyfeillion i'r Gwysaney, hen balas godidog a safai (ac a saif) mewn coedwig tua dwy filldir tu hwnt i'r Wyddgrug, yn nghyfeiriad Rhosesmore; fel na archollid teimladau tyner menyw gan yr helynt a gymerai le; a Goronwy a Bondigrybwyll a osgorddent y cerbyd a gludai Wenllian, Morfudd, Ionofal, a'r gwasanaethesau i'w noddfa newydd. Wrth ddychwelyd yn frysiog o'r negeswaith hon, cafodd y ddau gyfleu i gyfnewid syniadau na fwynhasent er's hir amser cyn hyny.
"Bondigrybwyll, Goronwy," ebai Robin, "y mae tro rhyfedd ar fyd! Yr wyf yn ofni y daw hi yn sobor ar Reinhallt am grogi Brown."
"Ddim sobrach arno, Robin, nag y daeth ar Brown ei hun am frathu tamaid o'th fawd di."
"Ie, tamaid chwerw i'r gwalch oedd hwnw," ebai Robin; "hir y cnoir tamaid chwerw. Be gaiff Reinhallt, tybed?"
"Maddeuant," ebai Goronwy; "maddeuant am grogi llofrudd!!"
"Yn wir!" ebai Robin.
"Yn wir," ebai Goronwy, mewn llais hyderus. "Campus, bondigrybwyll, campus," ebai Robin, gan ddechreu dawnsio "Sawdl y Fuwch," a diaspedain canu tros yr holl fro.
Tyred yn dy flaen, gadffwl," ebai Goronwy, "oni wyddost fod cyhoeddiad pwysig yn ein haros?"