Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O, na hitia be fo," ebai'r dawnsiwr, "bachgen clyfar wyt ti, Goronwy, yn teilyngu Morfudd, er mai Morfudd ydyw'r rhian lanaf yn nhair talaeth Cymru."

"Diolch i ti, Robin, tyr'd yn mlaen, fy machgen mawri; neu bydd cwn Caer yn y Twr o'n blaenau."

Ac yn mlaen yr aethant o lech i lwyn, gynted gallent, gan ysgoi y dref, a chymeryd y llwybr unionaf gyda godreu Gwern y mynydd; ond byddai Robin yn cael mynych lesmair o lawenydd a dawns ar dderbyniad rhyw ateg adnewyddol gan ei gydymaith o sicrwydd ffaith y pardwn.

Pan yn tynu at ben eu taith, croesent gae, ac yn mhen draw y cae hwnw, llwyn o goed; ac ar eu mynediad tros y clawdd i'r coed hwnw, clywent ryw "Hist" hirllais. Deallasant yn ebrwydd fod Reinhallt ac amrai o'i wyr yno'n ymguddio, ac yn disgwyl bob eiliad am ddyfodiad y gelynion. Ac ni bu eu disgwyliad yn hir; gwelid hwynt yn ngoleuni lloer wanaidd yn ymgripio fel llyffaint i fynu'r allt, gan gyfeirio at y Twr. Cynllwyn yn erbyn cynllwyn, ac ystryw yn ngwrth ystryw, ydoedd; a buasai eu tarfu mewn un modd yn annoeth.

"Gadewch iddynt," ebai ein harwr, " y maent yn ymdaith i'w dinystr; fe'u crogir ar eu crogbren eu hunain."

Cyrhaeddasant y ty, ac er eu syndod yr oedd drws y porth yn nghilagored, heb neb yn ei wylio. Meddylient fod eu prif amcan wedi ei gyrhaedd. Mewn ufudd-dod i orchymyn eu llywydd, Sion Olfer wrth ei enw, braddug anystyriol o Sais tra chyffelyb ar lawer ystyr i Dic Alis, llafn afrosgo o gorph a gwyrgam o feddwl, a gollasai un o'i freichiau cyhyrog yn un o ryfeloedd lluosog yr oes